Mae Creadigol yn asiantaeth ddwyieithog sy’n credu bod brand yn fwy na logo statig neu wefan. Mae’n brofiad, yn deimlad mae pobl yn ei gael pan fyddant yn rhyngweithio â’ch busnes. Dyna pam rydyn ni bob amser yn sicrhau bod symudiad yn flaenllaw yn ein proses ddylunio.
Nid sôn am ychwanegu ychydig o GIFs animeiddiedig yma ac acw yn unig yr ydym ni – rydyn ni’n sôn am ddefnyddio symudiad fel rhan greiddiol o’ch strategaeth ddylunio. Boed hynny trwy feicro-ryngweithiadau, animeiddiadau, neu hyd yn oed gynnwys fideo llawn, credwn y gall symudiad drawsnewid eich brand a’ch helpu i sefyll allan mewn marchnad orlawn.
Ond nid yw ein gwaith yn stopio gyda symudiad. Fel stiwdio ddylunio gwasanaeth llawn, rydyn ni’n cynnig ystod eang o wasanaethau i’ch helpu i gyflawni eich nodau. O strategaeth brand a dylunio hunaniaeth i UX/UI (profiad defnyddiwr / rhyngwyneb defnyddiwr) a datblygu gwe. Mae ein tîm o ddylunwyr, strategwyr a’n datblygwyr dwyieithog yn angerddol am ddarparu datrysiadau dylunio o’r radd flaenaf sydd wedi’u teilwra i’ch anghenion unigryw.
Creu amlinelliad clir i ddiffinio cynrychiolaeth eich brand, gan bwysleisio pwy ydych chi, beth rydych chi’n ei gynnig, a sut rydych chi am gael eich gweld.
Drwy wneud symudiad yn ffocws craidd yn ein prosiectau, rydyn ni’n mynd y tu hwnt i gwestiynau sylfaenol megis beth, pwy, a pham.
Rydyn ni’n ymchwilio i sut y dylai pethau symud, a sut y gall pobl ryngweithio â’r symudiad hwnnw.
Drwy gydweithredu’n agos, gallwn gyfuno ein harbenigedd a’n creadigrwydd i ddod â’ch gweledigaeth yn fyw. Rydyn ni am gael eich mewnbwn, yn gwrando ar eich syniadau, ac yn ymgorffori eich adborth trwy gydol y broses. Gyda’n gilydd byddwn yn creu canlyniad eithriadol sy’n rhagori ar eich disgwyliadau.
© 2023 Creadigol Design All Rights Reserved
Cwmni cyfyngedig preifat sydd wedi’i gorffori yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 14051334.
This website uses cookies to ensure you have the best browsing experience possible. Privacy Policy