Menai Track and Field
Gwe / Ui / Cynnwys
Y briff
Gwella profiad y defnyddiwr a hygyrchedd gwefan Menai Track and Field, gan hwyluso’r broses i aelodau newydd ymuno. Ein nod oedd ei sefydlu fel y brif ffynhonnell wybodaeth i’r clwb gan gwmpasu popeth o’r amserlen wythnosol i lywodraethu’r clwb.
Ein prif her wrth ailwampio’r wefan oedd hwyluso’r profiad o’i defnyddio i ddefnyddwyr y we a ffonau symudol. Roedden ni hefyd am ei gwneud yn hawdd i aelodau’r clwb ddod o hyd i’w polisïau llywodraethu clwb, a chael mynediad iddynt.
Er mwyn cyflawni hyn, fe wnaethom ni ganolbwyntio ar ddatblygu gwefan sy’n hawdd ei diweddaru. Bu i ni greu mathau o bostiadau arferol yn benodol ar gyfer adroddiadau o rasys, gan alluogi aelodau’r clwb i uwchlwytho adroddiadau megis postiadau blog ynghyd â delweddau’r rasys.
I grynhoi, ein nod oedd gwneud y wefan yn hawdd i’w defnyddio, yn hygyrch ac yn hawdd ei diweddaru. Byddai’n galluogi aelodau’r clwb i rannu eu hadroddiadau a’u delweddau rasio heb fawr ymdrech.
Andrew Wheetman | Cadeirydd
© 2024 Creadigol Design All Rights Reserved
Cwmni cyfyngedig preifat sydd wedi’i gorffori yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 14051334.
This website uses cookies to ensure you have the best browsing experience possible. Privacy Policy