Rondo Media

BRAND NEWYDD I DDENU CYNULLEIDFA NEWYDD.

Facebook
Twitter
LinkedIn

Brandio / Symudiad / Digidol / Darlledu

Y briff

Roeddem wrth ein bodd pan gysylltodd Rondo Media â’n stiwdio ddylunio i ailwampio’r brandio ar gyfer eu rhaglen deledu boblogaidd, Rownd a Rownd. Mae ganddi hanes cyfoethog yn ymestyn yn ôl i’r 90au cynnar, ac yn rhaglen sy’n cael ei thrysori gan wylwyr Rondo Media.
Ein nod oedd creu golwg slic a chyfoes tra’n talu teyrnged i’w gwaddol barhaus. Ein tasg oedd creu brand y gallai’r cenedlaethau iau a hŷn o wylwyr uniaethu ag ef, gan grynhoi hanfod y gorffennol wrth gofleidio’r dyfodol.
Roedd ein hailddyluniad yn cwmpasu amrywiol elfennau, gan gynnwys enw’r rhaglen, palet lliw, dilyniant graffeg y teitl agoriadol, ac eiconau ac asedau cyfryngau cymdeithasol.

Er mwyn gwthio’r brand yn ei flaen fe wnaethom ni ddechrau trwy drochi ein hunain yn hanes y rhaglen. Wrth dreiddio i mewn i’w archifau, fe ddaethom o hyd i’r logo gwreiddiol o’r ymddangosiad cyntaf ym 1995. Cawsom ein hysbrydoli gan y siapiau hiraethus hynny, a’u trwytho ag elfen fodern. Ein nod oedd creu dyluniad a oedd yn amlygu ffresni, hylifedd ac eglurder, y gellir ei addasu i bob platfform.

Trwy drawsnewid teitl y sioe i’r acronym RaR, daeth y logo newydd yn fwy cryno ac effeithiol nag erioed o’r blaen. Drwy ymgorffori gofod negyddol yn ddyfeisgar i ffurfio pennau saethau cynnil o fewn ffurfiau’r llythrennau, cawsom ymdeimlad o symudiad deinamig a oedd yn adlewyrchu hanfod y sioe.

Er mwyn trwytho ymdeimlad o egni a symudiad i’r logo, fe wnaethom ddewis dyluniad symlach oedd yn dal y llygad. Roedd yn taro cydbwysedd rhwng bod yn feiddgar ac yn adnabyddus, tra hefyd yn ennyn ymdeimlad o gynefindra. Adeiladwyd ar y sylfaen hon ac fe wnaethom ymgorffori siapiau bwaog, hanner cylch a oedd yn cynnig eu hunain yn naturiol i symudiad.

Roeddem hefyd yn cydnabod pwysigrwydd addasu i’r tirwedd ddigidol, lle mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan arwyddocaol. Er mwyn sicrhau presenoldeb brand cydlynol ac amlbwrpas, fe ddatblygwyd casgliad o asedau cyfryngau cymdeithasol wedi’u dylunio gyda’r gallu i addasu. Roedd yr asedau hyn wedi’u hintegreiddio’n ddi-dor â chyd-destunau amrywiol tra’n cadw eu rhinweddau deinamig, gan ddal sylw cynulleidfaoedd digidol yn effeithiol.

"Roedd y bartneriaeth gyda Creadigol Design yn amhrisiadwy wrth i ni ymgymryd â'r her o ailfrandio ein cyfres deledu hirsefydlog, Rownd a Rownd. Gyda'u dealltwriaeth ddofn o'r diwydiant, y gynulleidfa, a naws diwylliannol, yn ogystal â'u harbenigedd ym myd dylunio cyfoes fe wnaethon nhw ein harwain tuag at ail-frandio sydd wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau. Ein nod oedd swyno cynulleidfa amrywiol tra’n cadw teyrngarwch ein sylfaen o wylwyr presennol. Llwyddodd Creadigol Design i wneud hyn oll gan esgor ar lwyddiant aruthrol.”

Alaw Llewelyn Roberts | Cynhyrchydd Gweithredol

Eisiau cyd-weithio Cysylltwch i weld sut gallwn ni helpu Eisiau cyd-weithio Cysylltwch i weld sut gallwn ni helpu
Eisiau cyd-weithio Cysylltwch i weld sut gallwn ni helpu Eisiau cyd-weithio Cysylltwch i weld sut gallwn ni helpu

This website uses cookies to ensure you have the best browsing experience possible. Privacy Policy