{"id":4102,"date":"2024-03-13T12:33:31","date_gmt":"2024-03-13T12:33:31","guid":{"rendered":"https:\/\/creadigol.design\/sut-i-lansio-logo\/"},"modified":"2024-03-13T12:33:31","modified_gmt":"2024-03-13T12:33:31","slug":"sut-i-lansio-logo","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/","title":{"rendered":"Sut i lansio logo"},"content":{"rendered":"<p>Logos yw un o rannau pwysicaf unrhyw strategaeth frandio.<\/p>\n<p>Os oes gennych logo sydd wedi dyddio, gall dylunio logo newydd sy&#8217;n cynrychioli eich brand yn berffaith deimlo fel y cam rhesymegol nesaf.<\/p>\n<p>Er bod lansio logo newydd yn amser cyffrous i unrhyw frand, mae&#8217;n bwysig ei gael yn iawn er mwyn cael y gorau o&#8217;ch buddsoddiad.<\/p>\n<p>I fanteisio ar eich brand newydd, mae angen i chi greu lansiad logo llwyddiannus.<\/p>\n<p>I lansio logo, bydd angen i chi:<\/p>\n<ul>\n<li>Ystyried prif bwrpas y logo<\/li>\n<li>Deall eich brand a&#8217;ch cynulleidfa<\/li>\n<li>Dylunio eich logo newydd<\/li>\n<li>Lansio eich logo&#8217;n fewnol yn gyntaf<\/li>\n<li>Diweddaru deunyddiau brand a chwblhau&#8217;r brandio<\/li>\n<li>Creu cyffro a lansio popeth ar unwaith<\/li>\n<\/ul>\n<h2>1. Ystyried prif bwrpas y logo<\/h2>\n<p>Y cam cyntaf i lansio logo yw ystyried ei brif bwrpas.<\/p>\n<p>Wrth ystyried pwrpas eich logo, mae&#8217;n bwysig edrych ar y gwahanol fathau o logos a sut y gallen nhw weithio i&#8217;ch amcanion.<\/p>\n<p>Gallai&#8217;r rhain gynnwys, ymhlith eraill:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Symbol logo<\/strong>: eicon graffig sy&#8217;n wych i fusnes ag enw hirach y mae delwedd yn ei gynrychioli orau.<\/li>\n<li><strong>Llythrenfarc<\/strong>: logo ffont-seiliedig sy&#8217;n addas i fusnesau ag enwau hirach sydd am eu byrhau&#8217;n acronym.<\/li>\n<li><strong>Gairfarc<\/strong>: logo ffont-seiliedig sy&#8217;n gweddu orau i fusnesau ag enwau byrrach.<\/li>\n<li><strong>Masgot<\/strong>: cymeriad darluniadol sy&#8217;n cynrychioli eich brand.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Drwy edrych ar y gwahanol fathau o logos a phwy y maen nhw&#8217;n eu gwasanaethu orau, gallwch benderfynu pa un sydd fwyaf addas i&#8217;ch brand.<\/p>\n<h2>2. Deall eich brand a&#8217;ch cynulleidfa<\/h2>\n<p>Y cam nesaf i lansio eich logo yw deall eich brand a&#8217;ch cynulleidfa.<\/p>\n<p>Gan fod eich logo&#8217;n estyniad o&#8217;ch brand, rhaid iddo aros yn driw i bwrpas eich brand a chyfleu&#8217;r hyn y mae&#8217;n sefyll drosto, gan siarad \u00e2&#8217;ch cynulleidfa ar yr un pryd.<\/p>\n<p>O ystyried bod &#8216;mwy na thri chwarter defnyddwyr (76%) yn dweud y bydden nhw&#8217;n prynu gan frand y maen nhw&#8217;n teimlo cysylltiad ag ef yn hytrach na chystadleuydd&#8217;, mae pwysigrwydd creu logo y bydd eich cynulleidfa&#8217;n uniaethu ag ef yn dod yn bwysicach fyth.<\/p>\n<p>O&#8217;ch ymchwil marchnad, penderfynwch beth sy&#8217;n denu eich cynulleidfa a beth sy&#8217;n eu gwrthod.<\/p>\n<p>Cofiwch y gallai eich cynulleidfa gamddeall yr hyn y mae eich brand yn sefyll drosto, a bydd hynny&#8217;n arwain at ddatgysylltiad os na fyddwch yn dylunio&#8217;r logo cywir.<\/p>\n<h2>3. Dylunio eich logo newydd<\/h2>\n<p>Unwaith y byddwch wedi gosod y sylfeini, mae&#8217;n amser dylunio eich logo newydd.<\/p>\n<p>Dylai eich logo grynhoi eich brand a chreu hunaniaeth brand mor gref fel y gall pobl ei hadnabod ar unwaith.<\/p>\n<h3>Sut i ddylunio logo cwmni da<\/h3>\n<p>Mae llawer o gamau&#8217;n rhan o ddylunio logo cwmni da, o daflu syniadau am eiriau sy&#8217;n disgrifio eich brand i fireinio&#8217;r braslun a ddewiswyd.<\/p>\n<p>Ond os nad ydych erioed wedi dylunio logo, mae cyflogi cwmni brandio a dylunio i greu un i chi yn fan cychwyn rhagorol.<\/p>\n<p>Mae ein t\u00eem o ddylunwyr yn Creadigol Design yn credu bod brand yn fwy na logo statig: teimlad ydyw y mae pobl yn ei brofi pan fyddan nhw&#8217;n rhyngweithio \u00e2&#8217;ch busnes.<\/p>\n<p>Gall ein harbenigwyr greu logo sy&#8217;n pwysleisio pwy ydych chi, beth rydych yn ei gynnig, a sut rydych am gael eich gweld. Rydyn ni&#8217;n mynd ati i geisio eich mewnbwn, gwrando ar eich syniadau ac ymgorffori eich adborth drwy gydol y broses i greu profiad eithriadol i bob cleient.<\/p>\n<p>Yn ogystal, fel stiwdio dylunio brand gwasanaeth llawn, rydyn ni&#8217;n cynnig ystod eang o wasanaethau dylunio a brandio i wella eich strategaeth frandio a&#8217;ch helpu i gyflawni eich nodau.<\/p>\n<p>Cysylltwch ag aelod o&#8217;n t\u00eem heddiw.<\/p>\n<h2>4. Lansio eich logo&#8217;n fewnol yn gyntaf<\/h2>\n<p>Mae lansiad mewnol i&#8217;ch logo&#8217;n chwarae rhan hanfodol wrth ddod \u00e2&#8217;ch t\u00eem i&#8217;r un lle.<\/p>\n<p>I wneud hyn, efallai y penderfynwch gynnal digwyddiad i&#8217;r cwmni cyfan a darparu canllaw arddull brand swyddogol sy&#8217;n manylu ar y logo yn ogystal ag unrhyw newidiadau brand rydych yn eu gwneud.<\/p>\n<p>Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi ddosbarthu deunydd hyrwyddo, gan gynnwys crysau-t a nwyddau eraill sy&#8217;n dangos y logo.<\/p>\n<p>Mae lansio eich logo&#8217;n fewnol yn bwysig er mwyn sicrhau bod pawb ar yr un dudalen cyn y lansiad.<\/p>\n<h2>5. Diweddaru deunyddiau brand a chwblhau&#8217;r brandio<\/h2>\n<p>Cyn i chi lansio logo, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn diweddaru unrhyw ddeunyddiau brand.<\/p>\n<p>Bydd angen i chi ddiweddaru eich gwefan, cardiau busnes, hysbysebion, a phroffiliau a graffeg y cyfryngau cymdeithasol, i enwi ond ychydig, a pheidiwch ag anghofio eich llofnodion e-bost. Wedi&#8217;r cyfan, y manylion bach sy&#8217;n cyfrif.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae angen i chi sicrhau bod eich brandio&#8217;n gyflawn. O liwiau i ffontiau, graffeg i ffotograffiaeth, rhaid i bopeth gyd-fynd \u00e2&#8217;ch golwg newydd.<\/p>\n<p>Mae hyn yn bwysig oherwydd os nad yw gweddill eich elfennau brand yn cyd-fynd \u00e2&#8217;ch logo, fydd gennych chi ddim hunaniaeth brand gydlynol.<\/p>\n<p>I ddysgu mwy am pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig, darllenwch ein dyddiadur.<\/p>\n<h2>6. Creu cyffro a lansio popeth ar unwaith<\/h2>\n<p>Y cam olaf i lansio logo yw creu cyffro a gosod dyddiad i lansio popeth ar unwaith.<\/p>\n<p>Mae lansio eich logo&#8217;n gyfle i sefydlu adnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth brand.<\/p>\n<p>Ffordd wych o greu cyffro yw drwy flog eich cwmni neu eich tudalennau cyfryngau cymdeithasol, fel Instagram. O ystyried bod 1.4 biliwn o ddefnyddwyr Instagram ledled y byd, mae gan gyhoeddi lansiad eich logo ar y platfform y potensial i gyrraedd pwll enfawr o gwsmeriaid newydd, felly gwnewch y mwyaf o&#8217;r cyfle.<\/p>\n<p>Ar ddiwrnod y lansiad, gwnewch eich gwefan yn fyw, postiwch ar y cyfryngau cymdeithasol, a chr\u00ebwch flog i gyhoeddi&#8217;r logo a&#8217;r newidiadau cyffrous i&#8217;ch brandio.<\/p>\n<p>I greu mwy fyth o gyffro, gallech gynnig cymhellion i ymgysylltu \u00e2 chwsmeriaid ar draws eich platfformau cymdeithasol, fel gostyngiadau ar gynnyrch neu wasanaeth am gyfnod cyfyngedig i ddathlu lansiad eich logo.<\/p>\n<p>Fel hyn, gallwch wneud y mwyaf o effeithiolrwydd y lansiad, cyffroi eich cwsmeriaid am eich brand, a manteisio ar eich ailfrandio.<\/p>\n<p>Dyna ni felly. Gobeithio bod yr erthygl hon wedi rhoi persbectif ehangach i chi ar sut i lansio logo.<\/p>\n<p>Creadigol Design ydyn ni: stiwdio ddylunio gwasanaeth llawn, ddwyieithog yn y DU, wedi&#8217;i chreu i drawsnewid eich brand a&#8217;ch helpu i sefyll allan mewn marchnad orlawn.<\/p>\n<p>O strategaeth brand a dylunio hunaniaeth i UX\/UI a datblygu gwe, mae ein t\u00eem o ddylunwyr, strategwyr a datblygwyr dwyieithog yn angerddol am ddarparu gwasanaethau brandio a dylunio o&#8217;r radd flaenaf sydd wedi&#8217;u teilwra i&#8217;ch anghenion unigryw.<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2&#8217;n harbenigwyr heddiw i weld sut y gallwn helpu eich busnes.<\/p>\n<p><em>Ysgrifennwyd gan Jemima ar gyfer Creadigol Design.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Logos yw un o rannau pwysicaf strategaeth frandio. Os oes gennych logo sydd wedi dyddio, dyma sut i lansio un newydd a chael y gorau o&#8217;ch buddsoddiad.<\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":3072,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[34],"tags":[],"class_list":["post-4102","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-brandio"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v22.8 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Sut i lansio logo - Creadigol Design<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Sut i lansio logo - Creadigol Design\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Logos yw un o rannau pwysicaf strategaeth frandio. Os oes gennych logo sydd wedi dyddio, dyma sut i lansio un newydd a chael y gorau o&#039;ch buddsoddiad.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Creadigol Design\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-03-13T12:33:31+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/creadigol-how-to-launch-a-logo.webp\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/webp\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Jemima Thomas\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Jemima Thomas\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/\"},\"author\":{\"name\":\"Jemima Thomas\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/13bbe254998ab403285c84ecdc211d48\"},\"headline\":\"Sut i lansio logo\",\"datePublished\":\"2024-03-13T12:33:31+00:00\",\"dateModified\":\"2024-03-13T12:33:31+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/\"},\"wordCount\":1117,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/creadigol-how-to-launch-a-logo.webp\",\"articleSection\":[\"Brandio\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/\",\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/\",\"name\":\"Sut i lansio logo - Creadigol Design\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/creadigol-how-to-launch-a-logo.webp\",\"datePublished\":\"2024-03-13T12:33:31+00:00\",\"dateModified\":\"2024-03-13T12:33:31+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/creadigol-how-to-launch-a-logo.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/creadigol-how-to-launch-a-logo.webp\",\"width\":1920,\"height\":1080,\"caption\":\"How to launch a logo design agency blog\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Sut i lansio logo\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/\",\"name\":\"Creadigol Design\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":[\"Organization\",\"ProfessionalService\"],\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization\",\"name\":\"Creadigol Design\",\"alternateName\":\"Creadigol Design - Motion-Lead Creative Agency\",\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/linked-in-display.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/linked-in-display.jpg\",\"width\":1080,\"height\":1080,\"caption\":\"Creadigol Design\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.instagram.com\/creadigol.design\/\",\"https:\/\/uk.linkedin.com\/company\/creadigol-design\"],\"description\":\"Stiwdio brandio a graffeg symud ym Mangor, Gogledd Cymru. Hunaniaethau wedi'u creu i symud, yn Gymraeg a Saesneg.\",\"address\":{\"@type\":\"PostalAddress\",\"addressLocality\":\"Bangor\",\"addressRegion\":\"Gwynedd\",\"addressCountry\":\"GB\"},\"areaServed\":[\"Wales\",\"United Kingdom\"],\"knowsLanguage\":[\"cy\",\"en\"],\"foundingDate\":\"2022\",\"founder\":{\"@type\":\"Person\",\"name\":\"Daniel Parry Evans\"},\"email\":\"info@creadigol.design\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/13bbe254998ab403285c84ecdc211d48\",\"name\":\"Jemima Thomas\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/29241a3b8ad5bc1099d7dad3d87026ba?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/29241a3b8ad5bc1099d7dad3d87026ba?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Jemima Thomas\"},\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/author\/jemima_lumen\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Sut i lansio logo - Creadigol Design","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Sut i lansio logo - Creadigol Design","og_description":"Logos yw un o rannau pwysicaf strategaeth frandio. Os oes gennych logo sydd wedi dyddio, dyma sut i lansio un newydd a chael y gorau o'ch buddsoddiad.","og_url":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/","og_site_name":"Creadigol Design","article_published_time":"2024-03-13T12:33:31+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1080,"url":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/creadigol-how-to-launch-a-logo.webp","type":"image\/webp"}],"author":"Jemima Thomas","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Jemima Thomas","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/"},"author":{"name":"Jemima Thomas","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/13bbe254998ab403285c84ecdc211d48"},"headline":"Sut i lansio logo","datePublished":"2024-03-13T12:33:31+00:00","dateModified":"2024-03-13T12:33:31+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/"},"wordCount":1117,"publisher":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/creadigol-how-to-launch-a-logo.webp","articleSection":["Brandio"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/","url":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/","name":"Sut i lansio logo - Creadigol Design","isPartOf":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/creadigol-how-to-launch-a-logo.webp","datePublished":"2024-03-13T12:33:31+00:00","dateModified":"2024-03-13T12:33:31+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#primaryimage","url":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/creadigol-how-to-launch-a-logo.webp","contentUrl":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/creadigol-how-to-launch-a-logo.webp","width":1920,"height":1080,"caption":"How to launch a logo design agency blog"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/sut-i-lansio-logo\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Sut i lansio logo"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#website","url":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/","name":"Creadigol Design","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":["Organization","ProfessionalService"],"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization","name":"Creadigol Design","alternateName":"Creadigol Design - Motion-Lead Creative Agency","url":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/linked-in-display.jpg","contentUrl":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/linked-in-display.jpg","width":1080,"height":1080,"caption":"Creadigol Design"},"image":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.instagram.com\/creadigol.design\/","https:\/\/uk.linkedin.com\/company\/creadigol-design"],"description":"Stiwdio brandio a graffeg symud ym Mangor, Gogledd Cymru. Hunaniaethau wedi'u creu i symud, yn Gymraeg a Saesneg.","address":{"@type":"PostalAddress","addressLocality":"Bangor","addressRegion":"Gwynedd","addressCountry":"GB"},"areaServed":["Wales","United Kingdom"],"knowsLanguage":["cy","en"],"foundingDate":"2022","founder":{"@type":"Person","name":"Daniel Parry Evans"},"email":"info@creadigol.design"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/13bbe254998ab403285c84ecdc211d48","name":"Jemima Thomas","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/29241a3b8ad5bc1099d7dad3d87026ba?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/29241a3b8ad5bc1099d7dad3d87026ba?s=96&d=mm&r=g","caption":"Jemima Thomas"},"url":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/author\/jemima_lumen\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4102","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4102"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4102\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3072"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4102"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4102"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4102"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}