{"id":4106,"date":"2024-01-19T07:30:17","date_gmt":"2024-01-19T07:30:17","guid":{"rendered":"https:\/\/creadigol.design\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/"},"modified":"2024-01-19T07:30:17","modified_gmt":"2024-01-19T07:30:17","slug":"pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/","title":{"rendered":"Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig?"},"content":{"rendered":"<p>Yn fyr, mae hunaniaeth brand gref yn eich gwahaniaethu oddi wrth y gystadleuaeth, yn eich galluogi i ddenu a chadw cwsmeriaid ffyddlon, ac yn gwneud eich busnes yn gofiadwy ymhlith eich cynulleidfa.<\/p>\n<p>Mae brandio felly&#8217;n chwarae rhan ganolog yn llwyddiant eich busnes, yn fwy fyth yn yr oes ddigidol heddiw, lle mae argraffiadau cyntaf yn bopeth. Yn wir, canfu astudiaeth gan Salsify fod 46% o gwsmeriaid yn tueddu i brynu gan frandiau cyfarwydd y maen nhw&#8217;n eu hadnabod.<\/p>\n<p>Po fwyaf y mae pobl yn adnabod, yn deall ac yn credu yn yr hyn y gall eich brand ei gynnig, y mwyaf y maen nhw&#8217;n ei brynu gennych. Mor syml \u00e2 hynny!<\/p>\n<p>Ond cyn i ni blymio i fanteision niferus hunaniaeth brand gref, mae&#8217;n bwysig deall yn union beth yw brand cryf.<\/p>\n<h2>Beth yw diffiniad brand?<\/h2>\n<p>Yn syml, casgliad o ganfyddiadau y mae pobl yn eu cysylltu \u00e2 gwasanaeth, cynnyrch neu gwmni penodol yw brand. Fel arfer mae dwy ran i frand: hunaniaeth weledol ac addewid neu werthoedd y busnes.<\/p>\n<p>Mae hunaniaeth weledol yn cynnwys holl gydrannau gweledol brand, fel y logo, lliwiau, ffontiau, delweddau a&#8217;r llinell dag, sy&#8217;n gwneud y busnes yn adnabyddadwy ac yn caniat\u00e1u iddo sefyll allan o&#8217;i gystadleuwyr. Mae addewid y busnes, ar y llaw arall, yn cwmpasu&#8217;r hyn y mae&#8217;r busnes yn gwarantu ei ddarparu i&#8217;w gynulleidfa, ei genhadaeth a&#8217;i werthoedd.<\/p>\n<h3>Beth yw ystyr hunaniaeth brand gref?<\/h3>\n<p>Mae hunaniaeth brand gref yn cyfeirio&#8217;n syml at y set nodedig o werthoedd craidd, nodweddion unigryw, elfennau gweledol a negeseuon sydd gyda&#8217;i gilydd yn diffinio brand ac yn ei wahaniaethu oddi wrth ei gystadleuwyr.<\/p>\n<p>Mae elfennau allweddol hunaniaeth brand gref yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Cofiadwyedd ac adnabyddiaeth<\/strong>: mae cwmni \u00e2 hunaniaeth brand gref yn fwyaf tebygol o aros ym meddyliau&#8217;r gynulleidfa, a dylai defnyddwyr allu adnabod y brand yn gyflym drwy ei logo, ei liwiau a&#8217;i elfennau gweledol eraill.<\/li>\n<li><strong>Cysondeb<\/strong>: mae hunaniaeth brand gref yn gyson o ran negeseuon, dyluniad a chyflwyniad cyffredinol y brand ar draws pob platfform. Yn \u00f4l adroddiad State of Brand Consistency, gall brandio cyson ar draws pob sianel gyfathrebu gynyddu refeniw busnes 20%.<\/li>\n<li><strong>Canllawiau brand<\/strong>: yn aml mae gan frand \u00e2 hunaniaeth gref ganllawiau brand wedi&#8217;u dogfennu&#8217;n dda y mae pawb sy&#8217;n creu cynnwys neu&#8217;n cynrychioli&#8217;r brand yn glynu wrthyn nhw.<\/li>\n<li><strong>Cysylltiadau emosiynol<\/strong>: mae hunaniaeth brand gref yn aml yn ennyn emosiynau&#8217;r gynulleidfa, sy&#8217;n helpu i adeiladu teyrngarwch brand ac yn annog prynu eto.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Er bod brandiau&#8217;n anniriaethol, nid yw hynny&#8217;n golygu nad ydyn nhw&#8217;n asedau busnes hynod werthfawr. Bydd y ffordd y mae cwsmer yn teimlo tuag at fusnes yn dylanwadu&#8217;n sylweddol ar ei ymddygiad prynu, sydd wrth gwrs yn effeithio&#8217;n uniongyrchol ar linell waelod y busnes.<\/p>\n<h2>Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig?<\/h2>\n<p>Mae hunaniaeth brand gref yn bwysig oherwydd:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae&#8217;n eich gosod ar wah\u00e2n i&#8217;ch cystadleuwyr<\/li>\n<li>Mae&#8217;n adeiladu teyrngarwch ac ymddiriedaeth cwsmeriaid<\/li>\n<li>Mae&#8217;n gwneud eich busnes yn gofiadwy<\/li>\n<li>Llai o sensitifrwydd i bris<\/li>\n<li>Mae&#8217;n rhoi sylfaen dda i farchnata llwyddiannus<\/li>\n<\/ul>\n<h3>1. Mae&#8217;n eich gosod ar wah\u00e2n i&#8217;ch cystadleuwyr<\/h3>\n<p>Yn gyntaf oll, mae hunaniaeth brand gref yn chwarae rhan sylweddol wrth helpu eich busnes i sefyll allan o gystadleuwyr sy&#8217;n cynnig cynhyrchion neu wasanaethau tebyg mewn marchnad orlawn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n amlygu&#8217;r holl bethau sy&#8217;n gwneud y brand yn unigryw ac yn wahanol, gan greu argraff nodedig a chofiadwy ar ddefnyddwyr.<\/p>\n<p>Fel y crybwyllwyd ar ddechrau&#8217;r blog hwn, mae hunaniaeth brand gref yn gyson ar draws yr holl sianeli cyfathrebu a&#8217;r platfformau a ddefnyddir gan y cwmni, gan gynnwys deunyddiau marchnata, y cyfryngau cymdeithasol, pecynnu a negeseuon, er enghraifft. Mae brand cyson yn naturiol yn adeiladu ymddiriedaeth o fewn y gynulleidfa gan ei fod yn atgyfnerthu delwedd a chymeriad y brand, gan wneud iddo sefyll allan yn y farchnad brysur.<\/p>\n<p>Mae hyn yn ein harwain yn daclus at yr ail bwynt\u2026<\/p>\n<h3>2. Mae&#8217;n adeiladu teyrngarwch ac ymddiriedaeth cwsmeriaid<\/h3>\n<p>Mae hunaniaeth brand bwerus yn chwarae rhan sylweddol wrth adeiladu a chynnal sylfaen ffyddlon ymhlith eich cwsmeriaid.<\/p>\n<p>Nid yn unig y mae hyn oherwydd cysondeb fel y soniwyd ym mhwynt 1, ond mae hunaniaeth brand gref a diffiniedig yn aml yn cysylltu \u00e2 chwsmeriaid ar lefel ddyfnach, emosiynol. Boed drwy werthoedd a rennir, straeon y gellir uniaethu \u00e2 nhw, neu bersonoliaeth brand nodedig, gall y cysylltiad emosiynol hwn greu perthynas sy&#8217;n mynd y tu hwnt i drafodion, gan annog teyrngarwch cwsmeriaid.<\/p>\n<p>Mae hunaniaeth brand gref hefyd yn helpu i greu cysylltiadau cadarnhaol ym meddyliau cwsmeriaid. Hynny yw, pan fydd cwsmeriaid yn cysylltu brand \u00e2 phrofiadau cadarnhaol a gwerthoedd sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;u gwerthoedd eu hunain, maen nhw&#8217;n fwy tebygol o aros yn ffyddlon i&#8217;r brand hwnnw.<\/p>\n<p>Teyrngarwch cwsmeriaid yw un o&#8217;r ffactorau pwysicaf, os nad y pwysicaf, a fydd yn helpu eich busnes i dyfu, yn enwedig os ydych yn gweithredu mewn marchnad orlawn \u00e2 chystadleuaeth drom.<\/p>\n<h2>3. Mae&#8217;n gwneud eich busnes yn gofiadwy<\/h2>\n<p>Os ydych am i&#8217;ch busnes fod yn adnabyddadwy ac yn gofiadwy, mae brand cryf yn gwbl hanfodol, mor syml \u00e2 hynny.<\/p>\n<p>Cymerwch frand hynod lwyddiannus ac enwog Starbucks, er enghraifft. Hyd yn oed os nad ydych yn ymweld \u00e2&#8217;r caffi, rydych yn sicr yn gwybod am eu brand. Mae tu mewn y caffi&#8217;n dywyll, yn gynnes ac yn ddramatig, a&#8217;r logo ar eu cwpan coffi yw menyw wen a gwyrdd mewn cylch.<\/p>\n<p>Dyna pam mae buddsoddi mewn strategaeth frandio weledol gadarn mor bwysig os ydych am i bobl adnabod eich brand ble bynnag y mae&#8217;n ymddangos. Er enghraifft:<\/p>\n<h3>Dylunio logo<\/h3>\n<p>Mae logo wedi&#8217;i ddylunio&#8217;n dda, trawiadol a chofiadwy yn gydran ganolog o hunaniaeth brand. Y logo yn ei hanfod sy&#8217;n rhoi&#8217;r argraff gyntaf i&#8217;ch cynulleidfa o&#8217;ch brand a&#8217;r hyn y mae&#8217;n ei gynnig ac yn sefyll drosto, ac mae&#8217;n caniat\u00e1u i gwsmeriaid adnabod y brand mewn gwahanol leoliadau.<\/p>\n<h3>Delweddau nodedig<\/h3>\n<p>Gall defnyddio delweddau eiconig neu nodedig sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r brand gynyddu adnabyddiaeth yn aruthrol. Mae hyn yn cynnwys delweddau, symbolau, neu hyd yn oed arddulliau ffotograffiaeth sy&#8217;n dod yn gysylltiedig \u00e2&#8217;r brand.<\/p>\n<h3>Palet lliw<\/h3>\n<p>Mae palet lliw wedi&#8217;i ddewis yn ofalus ac yn gyson yn gwella adnabyddiaeth brand, gan y gall lliwiau ennyn emosiynau a chysylltiadau i lawer o bobl. O&#8217;u defnyddio&#8217;n gyson, maen nhw&#8217;n dod yn gysylltiedig yn gryf \u00e2&#8217;r brand ym meddyliau defnyddwyr.<\/p>\n<h3>Graffeg symud<\/h3>\n<p>Un o&#8217;r ffyrdd hawsaf o wneud i&#8217;ch brand sefyll allan a bod yn gofiadwy yw ymgorffori dylunio graffeg symud yn eich strategaeth frandio.<\/p>\n<p>Mae defnyddio animeiddiadau a delweddau deinamig yn eich brandio nid yn unig yn gosod eich busnes ar wah\u00e2n i&#8217;r gweddill, ond hefyd yn creu profiad mwy diddorol a chofiadwy i&#8217;ch cynulleidfa, gan wella ap\u00eal gyffredinol yr hyn sydd gan eich busnes i&#8217;w gynnig.<\/p>\n<p>Yn Creadigol Design, rydyn ni&#8217;n deall bod brand yn llawer mwy na logo neu wefan yn unig. Teimlad ydyw y mae pobl yn ei gael pan fyddan nhw&#8217;n rhyngweithio \u00e2&#8217;ch busnes, a dyna pam rydyn ni&#8217;n ymfalch\u00efo mewn cadw symud ar flaen ein proses ddylunio, ac yn rhan graidd o&#8217;n strategaeth.<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2&#8217;n t\u00eem cyfeillgar i weld sut y gallwn fynd \u00e2&#8217;ch brand i&#8217;r lefel nesaf.<\/p>\n<h2>4. Llai o sensitifrwydd i bris<\/h2>\n<p>Mantais wych arall o adeiladu hunaniaeth brand gref yw ei bod yn rhoi&#8217;r gallu i chi godi prisiau heb boeni y bydd cwsmeriaid yn mynd i rywle arall.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r term &#8216;sensitifrwydd i bris&#8217; yn cyfeirio at faint y mae cost eich cynnyrch yn pwyso ar barodrwydd eich marchnad darged i&#8217;w brynu. Yn syml, po leiaf y mae pris yn pwyso ar eu penderfyniad, gorau oll. Mae&#8217;n golygu bod cwsmeriaid yn hoffi eich brand ddigon i roi llai o bwys ar y pris.<\/p>\n<p>Mae cwsmeriaid sy&#8217;n llai sensitif i bris yn fwyaf tebygol o fod wedi&#8217;u bodloni gan gynnyrch a brynon nhw gan frand, mae ganddyn nhw gysylltiad emosiynol cadarnhaol \u00e2&#8217;r brand, neu gallan nhw uniaethu \u00e2 gwerthoedd ac ethos y brand, e.e. cynaliadwyedd.<\/p>\n<h2>5. Mae&#8217;n rhoi sylfaen dda i farchnata llwyddiannus<\/h2>\n<p>Yn olaf ond nid lleiaf, mae hunaniaeth brand gref yn sylfaen gadarn i farchnata llwyddiannus. Mae hyn oherwydd bod hunaniaeth brand gyson a diffiniedig yn gwneud y brand yn hawdd ei adnabod, sy&#8217;n hanfodol i strategaethau marchnata, gan fod defnyddwyr yn fwy tebygol o ymgysylltu \u00e2 brand y gallan nhw ei adnabod yn hawdd, a&#8217;i gofio.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae brandiau \u00e2 hunaniaethau cryf mewn sefyllfa llawer gwell i&#8217;w gwahaniaethu eu hunain yn dda yn y farchnad. Mae marchnata llwyddiannus yn golygu arddangos yr hyn sy&#8217;n gwneud y brand yn unigryw ac yn ddeniadol, ac mae hunaniaeth gref yn rhoi sylfaen i wahaniaethu effeithiol.<\/p>\n<p>A dyna ni! Gobeithio bod yr erthygl hon wedi helpu eich dealltwriaeth o beth yw hunaniaeth brand a pham mae mor bwysig yn y farchnad heddiw. Am fwy o newyddion ac awgrymiadau, edrychwch ar ein dyddiadur brandio a dylunio.<\/p>\n<p>Creadigol Design ydyn ni: stiwdio ddylunio gwasanaeth llawn, ddwyieithog yn y DU, wedi&#8217;i chreu i drawsnewid eich brand a&#8217;ch helpu i sefyll allan mewn marchnad orlawn.<\/p>\n<p>O strategaeth brand a dylunio hunaniaeth i UX\/UI a datblygu gwe, mae ein t\u00eem o ddylunwyr, strategwyr a datblygwyr dwyieithog yn angerddol am ddarparu atebion dylunio o&#8217;r radd flaenaf sydd wedi&#8217;u teilwra i&#8217;ch anghenion unigryw.<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2&#8217;n harbenigwyr heddiw i weld sut y gallwn helpu eich busnes.<\/p>\n<p><em>Ysgrifennwyd gan Kate ar gyfer Creadigol Design.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn fyr, mae hunaniaeth brand gref yn eich gwahaniaethu oddi wrth y gystadleuaeth, yn eich galluogi i ddenu a chadw cwsmeriaid ffyddlon, ac yn gwneud eich busnes yn gofiadwy.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2931,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[34],"tags":[],"class_list":["post-4106","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-brandio"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v22.8 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig? - Creadigol Design<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig? - Creadigol Design\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn fyr, mae hunaniaeth brand gref yn eich gwahaniaethu oddi wrth y gystadleuaeth, yn eich galluogi i ddenu a chadw cwsmeriaid ffyddlon, ac yn gwneud eich busnes yn gofiadwy.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Creadigol Design\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-01-19T07:30:17+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Why-Is-a-Strong-Brand-Identity-Important-2.webp\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"640\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"360\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/webp\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"admin\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"admin\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/\"},\"author\":{\"name\":\"admin\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/431563c7ae2683d57816620fd3aed4f6\"},\"headline\":\"Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig?\",\"datePublished\":\"2024-01-19T07:30:17+00:00\",\"dateModified\":\"2024-01-19T07:30:17+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/\"},\"wordCount\":1603,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Why-Is-a-Strong-Brand-Identity-Important-2.webp\",\"articleSection\":[\"Brandio\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/\",\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/\",\"name\":\"Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig? - Creadigol Design\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Why-Is-a-Strong-Brand-Identity-Important-2.webp\",\"datePublished\":\"2024-01-19T07:30:17+00:00\",\"dateModified\":\"2024-01-19T07:30:17+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Why-Is-a-Strong-Brand-Identity-Important-2.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Why-Is-a-Strong-Brand-Identity-Important-2.webp\",\"width\":640,\"height\":360,\"caption\":\"Why Is a Strong Brand Identity Important?\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/\",\"name\":\"Creadigol Design\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":[\"Organization\",\"ProfessionalService\"],\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization\",\"name\":\"Creadigol Design\",\"alternateName\":\"Creadigol Design - Motion-Lead Creative Agency\",\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/linked-in-display.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/linked-in-display.jpg\",\"width\":1080,\"height\":1080,\"caption\":\"Creadigol Design\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.instagram.com\/creadigol.design\/\",\"https:\/\/uk.linkedin.com\/company\/creadigol-design\"],\"description\":\"Stiwdio brandio a graffeg symud ym Mangor, Gogledd Cymru. Hunaniaethau wedi'u creu i symud, yn Gymraeg a Saesneg.\",\"address\":{\"@type\":\"PostalAddress\",\"addressLocality\":\"Bangor\",\"addressRegion\":\"Gwynedd\",\"addressCountry\":\"GB\"},\"areaServed\":[\"Wales\",\"United Kingdom\"],\"knowsLanguage\":[\"cy\",\"en\"],\"foundingDate\":\"2022\",\"founder\":{\"@type\":\"Person\",\"name\":\"Daniel Parry Evans\"},\"email\":\"info@creadigol.design\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/431563c7ae2683d57816620fd3aed4f6\",\"name\":\"admin\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ec5c64f032e4af77d0c2788a62e393e3?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ec5c64f032e4af77d0c2788a62e393e3?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"admin\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/creadigol.design\"],\"url\":\"https:\/\/creadigol.design\/cy\/author\/admin\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig? - Creadigol Design","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig? - Creadigol Design","og_description":"Yn fyr, mae hunaniaeth brand gref yn eich gwahaniaethu oddi wrth y gystadleuaeth, yn eich galluogi i ddenu a chadw cwsmeriaid ffyddlon, ac yn gwneud eich busnes yn gofiadwy.","og_url":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/","og_site_name":"Creadigol Design","article_published_time":"2024-01-19T07:30:17+00:00","og_image":[{"width":640,"height":360,"url":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Why-Is-a-Strong-Brand-Identity-Important-2.webp","type":"image\/webp"}],"author":"admin","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"admin","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/"},"author":{"name":"admin","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/431563c7ae2683d57816620fd3aed4f6"},"headline":"Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig?","datePublished":"2024-01-19T07:30:17+00:00","dateModified":"2024-01-19T07:30:17+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/"},"wordCount":1603,"publisher":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Why-Is-a-Strong-Brand-Identity-Important-2.webp","articleSection":["Brandio"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/","url":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/","name":"Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig? - Creadigol Design","isPartOf":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Why-Is-a-Strong-Brand-Identity-Important-2.webp","datePublished":"2024-01-19T07:30:17+00:00","dateModified":"2024-01-19T07:30:17+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#primaryimage","url":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Why-Is-a-Strong-Brand-Identity-Important-2.webp","contentUrl":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2024\/01\/Why-Is-a-Strong-Brand-Identity-Important-2.webp","width":640,"height":360,"caption":"Why Is a Strong Brand Identity Important?"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/pam-mae-hunaniaeth-brand-gref-yn-bwysig\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#website","url":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/","name":"Creadigol Design","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":["Organization","ProfessionalService"],"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#organization","name":"Creadigol Design","alternateName":"Creadigol Design - Motion-Lead Creative Agency","url":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/linked-in-display.jpg","contentUrl":"https:\/\/creadigol.design\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/linked-in-display.jpg","width":1080,"height":1080,"caption":"Creadigol Design"},"image":{"@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.instagram.com\/creadigol.design\/","https:\/\/uk.linkedin.com\/company\/creadigol-design"],"description":"Stiwdio brandio a graffeg symud ym Mangor, Gogledd Cymru. Hunaniaethau wedi'u creu i symud, yn Gymraeg a Saesneg.","address":{"@type":"PostalAddress","addressLocality":"Bangor","addressRegion":"Gwynedd","addressCountry":"GB"},"areaServed":["Wales","United Kingdom"],"knowsLanguage":["cy","en"],"foundingDate":"2022","founder":{"@type":"Person","name":"Daniel Parry Evans"},"email":"info@creadigol.design"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/431563c7ae2683d57816620fd3aed4f6","name":"admin","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ec5c64f032e4af77d0c2788a62e393e3?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ec5c64f032e4af77d0c2788a62e393e3?s=96&d=mm&r=g","caption":"admin"},"sameAs":["https:\/\/creadigol.design"],"url":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/author\/admin\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4106","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4106"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4106\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2931"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4106"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4106"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/creadigol.design\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4106"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}