28 March 2025
O hedyn i lwyddiant: ein taith cynhyrchu rhithwir gyda Media Cymru

Dechreuodd y cyfan gyda chwestiwn: sut allwn ni newid canfyddiad pobl o gynhyrchu rhithwir fel technoleg “Hollywood yn unig” na ellir ei chyrraedd, a’i throi’n offeryn hygyrch y gellir ei raddio ar gyfer crewyr Cymru?
Yn Creadigol Design, rydyn ni wedi bod yn archwilio’r her hon drwy ein prosiect ymchwil a ariennir gan Media Cymru, ac mae’r daith wedi bod yn agoriad llygad.

Gofod bach, syniadau mawr
Pan osodon ni ein stiwdio brawf 3x3m ym mis Hydref 2024, roedd llawer yn amau a allai cynhyrchu rhithwir ystyrlon ddigwydd mewn gofod mor gyfyng. Dyna’n union oedd y pwynt. Drwy ddangos y gallai VP effeithiol ddechrau gyda gosodiadau cymedrol, roedden ni eisiau dangos y gallai’r dechnoleg dyfu ochr yn ochr â thwf busnes, yn hytrach na mynnu buddsoddiad enfawr ymlaen llaw.
Roedd y canlyniadau’n glir: nid oes rhaid i gynhyrchu rhithwir fod yn gynnig popeth-neu-ddim. Fel y darganfyddon ni, mae fel adeiladu tŷ ystafell wrth ystafell, yn hytrach na cheisio codi’r adeilad cyfan ar unwaith.


Mewnwelediadau’r diwydiant
Drwy gydol y prosiect hwn, rydyn ni wedi bod yn ffodus i gysylltu ag arweinwyr yn y diwydiant sydd wedi rhannu eu harbenigedd yn hael. O Michael Geissler (Mo-Sys Engineering) i James Hakesley (CUBE Studio), datgelodd y sgyrsiau hyn thema gyson: nid y dechnoleg ei hun yn unig yw’r rhwystr, ond y canfyddiad o’i chymhlethdod a’i chost.
Daeth cwestiwn arbennig o graff gan Ben Tilbrook yn Mo-Sys: “Ai pa mor rhad y gallwch chi wneud cost y gosodiad yw cost-effeithiol, ynteu faint rydych chi’n ei arbed ar y cynhyrchiad?” Mae’r newid persbectif hwn yn helpu i ail-fframio gwerth VP o’r buddsoddiad cychwynnol i arbedion cynhyrchu hirdymor.
Beth sydd nesaf?
Wrth symud ymlaen, rydyn ni’n gyffrous i adeiladu ar yr ymchwil hwn drwy ein cais newydd i’r Gronfa Ddatblygu. Rydyn ni wrthi’n chwilio am ofod mwy i greu’r stiwdio cynhyrchu rhithwir annibynnol gyntaf yng Ngogledd Cymru. Bydd y cyfleuster ehangach hwn yn ein galluogi i wasanaethu anghenion cynyddol cynyrchiadau lleol yn well, gan barhau â’n cenhadaeth i wneud technoleg VP yn fwy hygyrch.
Yn ogystal, mae gennym ambell brosiect cyfrinachol ar y gweill na allwn aros i’w datgelu yn y misoedd nesaf. Bydd y mentrau hyn yn dangos ymhellach ddefnydd ymarferol cynhyrchu rhithwir hygyrch i grewyr Cymru.
Mae ein nod yn parhau’n glir: sefydlu cynhyrchu rhithwir fel offeryn ymarferol y gellir ei raddio, sy’n galluogi busnesau creadigol Cymru i adrodd eu straeon mewn ffyrdd arloesol, beth bynnag fo’r gyllideb.
Cadwch lygad wrth i ni barhau â’r daith hon. Mae dyfodol cynhyrchu yng Nghymru’n edrych yn fwyfwy rhithwir, ac yn fwyfwy hygyrch.
Cefnogwyd y prosiect hwn gan Media Cymru, sy’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu i sicrhau effeithiau economaidd a chymdeithasol trawsnewidiol yn sector cyfryngau Cymru.