19 January 2024

Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig?

Why Is a Strong Brand Identity Important?

Yn fyr, mae hunaniaeth brand gref yn eich gwahaniaethu oddi wrth y gystadleuaeth, yn eich galluogi i ddenu a chadw cwsmeriaid ffyddlon, ac yn gwneud eich busnes yn gofiadwy ymhlith eich cynulleidfa.

Mae brandio felly’n chwarae rhan ganolog yn llwyddiant eich busnes, yn fwy fyth yn yr oes ddigidol heddiw, lle mae argraffiadau cyntaf yn bopeth. Yn wir, canfu astudiaeth gan Salsify fod 46% o gwsmeriaid yn tueddu i brynu gan frandiau cyfarwydd y maen nhw’n eu hadnabod.

Po fwyaf y mae pobl yn adnabod, yn deall ac yn credu yn yr hyn y gall eich brand ei gynnig, y mwyaf y maen nhw’n ei brynu gennych. Mor syml â hynny!

Ond cyn i ni blymio i fanteision niferus hunaniaeth brand gref, mae’n bwysig deall yn union beth yw brand cryf.

Beth yw diffiniad brand?

Yn syml, casgliad o ganfyddiadau y mae pobl yn eu cysylltu â gwasanaeth, cynnyrch neu gwmni penodol yw brand. Fel arfer mae dwy ran i frand: hunaniaeth weledol ac addewid neu werthoedd y busnes.

Mae hunaniaeth weledol yn cynnwys holl gydrannau gweledol brand, fel y logo, lliwiau, ffontiau, delweddau a’r llinell dag, sy’n gwneud y busnes yn adnabyddadwy ac yn caniatáu iddo sefyll allan o’i gystadleuwyr. Mae addewid y busnes, ar y llaw arall, yn cwmpasu’r hyn y mae’r busnes yn gwarantu ei ddarparu i’w gynulleidfa, ei genhadaeth a’i werthoedd.

Beth yw ystyr hunaniaeth brand gref?

Mae hunaniaeth brand gref yn cyfeirio’n syml at y set nodedig o werthoedd craidd, nodweddion unigryw, elfennau gweledol a negeseuon sydd gyda’i gilydd yn diffinio brand ac yn ei wahaniaethu oddi wrth ei gystadleuwyr.

Mae elfennau allweddol hunaniaeth brand gref yn cynnwys:

  • Cofiadwyedd ac adnabyddiaeth: mae cwmni â hunaniaeth brand gref yn fwyaf tebygol o aros ym meddyliau’r gynulleidfa, a dylai defnyddwyr allu adnabod y brand yn gyflym drwy ei logo, ei liwiau a’i elfennau gweledol eraill.
  • Cysondeb: mae hunaniaeth brand gref yn gyson o ran negeseuon, dyluniad a chyflwyniad cyffredinol y brand ar draws pob platfform. Yn ôl adroddiad State of Brand Consistency, gall brandio cyson ar draws pob sianel gyfathrebu gynyddu refeniw busnes 20%.
  • Canllawiau brand: yn aml mae gan frand â hunaniaeth gref ganllawiau brand wedi’u dogfennu’n dda y mae pawb sy’n creu cynnwys neu’n cynrychioli’r brand yn glynu wrthyn nhw.
  • Cysylltiadau emosiynol: mae hunaniaeth brand gref yn aml yn ennyn emosiynau’r gynulleidfa, sy’n helpu i adeiladu teyrngarwch brand ac yn annog prynu eto.

Er bod brandiau’n anniriaethol, nid yw hynny’n golygu nad ydyn nhw’n asedau busnes hynod werthfawr. Bydd y ffordd y mae cwsmer yn teimlo tuag at fusnes yn dylanwadu’n sylweddol ar ei ymddygiad prynu, sydd wrth gwrs yn effeithio’n uniongyrchol ar linell waelod y busnes.

Pam mae hunaniaeth brand gref yn bwysig?

Mae hunaniaeth brand gref yn bwysig oherwydd:

  • Mae’n eich gosod ar wahân i’ch cystadleuwyr
  • Mae’n adeiladu teyrngarwch ac ymddiriedaeth cwsmeriaid
  • Mae’n gwneud eich busnes yn gofiadwy
  • Llai o sensitifrwydd i bris
  • Mae’n rhoi sylfaen dda i farchnata llwyddiannus

1. Mae’n eich gosod ar wahân i’ch cystadleuwyr

Yn gyntaf oll, mae hunaniaeth brand gref yn chwarae rhan sylweddol wrth helpu eich busnes i sefyll allan o gystadleuwyr sy’n cynnig cynhyrchion neu wasanaethau tebyg mewn marchnad orlawn.

Mae’n amlygu’r holl bethau sy’n gwneud y brand yn unigryw ac yn wahanol, gan greu argraff nodedig a chofiadwy ar ddefnyddwyr.

Fel y crybwyllwyd ar ddechrau’r blog hwn, mae hunaniaeth brand gref yn gyson ar draws yr holl sianeli cyfathrebu a’r platfformau a ddefnyddir gan y cwmni, gan gynnwys deunyddiau marchnata, y cyfryngau cymdeithasol, pecynnu a negeseuon, er enghraifft. Mae brand cyson yn naturiol yn adeiladu ymddiriedaeth o fewn y gynulleidfa gan ei fod yn atgyfnerthu delwedd a chymeriad y brand, gan wneud iddo sefyll allan yn y farchnad brysur.

Mae hyn yn ein harwain yn daclus at yr ail bwynt…

2. Mae’n adeiladu teyrngarwch ac ymddiriedaeth cwsmeriaid

Mae hunaniaeth brand bwerus yn chwarae rhan sylweddol wrth adeiladu a chynnal sylfaen ffyddlon ymhlith eich cwsmeriaid.

Nid yn unig y mae hyn oherwydd cysondeb fel y soniwyd ym mhwynt 1, ond mae hunaniaeth brand gref a diffiniedig yn aml yn cysylltu â chwsmeriaid ar lefel ddyfnach, emosiynol. Boed drwy werthoedd a rennir, straeon y gellir uniaethu â nhw, neu bersonoliaeth brand nodedig, gall y cysylltiad emosiynol hwn greu perthynas sy’n mynd y tu hwnt i drafodion, gan annog teyrngarwch cwsmeriaid.

Mae hunaniaeth brand gref hefyd yn helpu i greu cysylltiadau cadarnhaol ym meddyliau cwsmeriaid. Hynny yw, pan fydd cwsmeriaid yn cysylltu brand â phrofiadau cadarnhaol a gwerthoedd sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd eu hunain, maen nhw’n fwy tebygol o aros yn ffyddlon i’r brand hwnnw.

Teyrngarwch cwsmeriaid yw un o’r ffactorau pwysicaf, os nad y pwysicaf, a fydd yn helpu eich busnes i dyfu, yn enwedig os ydych yn gweithredu mewn marchnad orlawn â chystadleuaeth drom.

3. Mae’n gwneud eich busnes yn gofiadwy

Os ydych am i’ch busnes fod yn adnabyddadwy ac yn gofiadwy, mae brand cryf yn gwbl hanfodol, mor syml â hynny.

Cymerwch frand hynod lwyddiannus ac enwog Starbucks, er enghraifft. Hyd yn oed os nad ydych yn ymweld â’r caffi, rydych yn sicr yn gwybod am eu brand. Mae tu mewn y caffi’n dywyll, yn gynnes ac yn ddramatig, a’r logo ar eu cwpan coffi yw menyw wen a gwyrdd mewn cylch.

Dyna pam mae buddsoddi mewn strategaeth frandio weledol gadarn mor bwysig os ydych am i bobl adnabod eich brand ble bynnag y mae’n ymddangos. Er enghraifft:

Dylunio logo

Mae logo wedi’i ddylunio’n dda, trawiadol a chofiadwy yn gydran ganolog o hunaniaeth brand. Y logo yn ei hanfod sy’n rhoi’r argraff gyntaf i’ch cynulleidfa o’ch brand a’r hyn y mae’n ei gynnig ac yn sefyll drosto, ac mae’n caniatáu i gwsmeriaid adnabod y brand mewn gwahanol leoliadau.

Delweddau nodedig

Gall defnyddio delweddau eiconig neu nodedig sy’n gysylltiedig â’r brand gynyddu adnabyddiaeth yn aruthrol. Mae hyn yn cynnwys delweddau, symbolau, neu hyd yn oed arddulliau ffotograffiaeth sy’n dod yn gysylltiedig â’r brand.

Palet lliw

Mae palet lliw wedi’i ddewis yn ofalus ac yn gyson yn gwella adnabyddiaeth brand, gan y gall lliwiau ennyn emosiynau a chysylltiadau i lawer o bobl. O’u defnyddio’n gyson, maen nhw’n dod yn gysylltiedig yn gryf â’r brand ym meddyliau defnyddwyr.

Graffeg symud

Un o’r ffyrdd hawsaf o wneud i’ch brand sefyll allan a bod yn gofiadwy yw ymgorffori dylunio graffeg symud yn eich strategaeth frandio.

Mae defnyddio animeiddiadau a delweddau deinamig yn eich brandio nid yn unig yn gosod eich busnes ar wahân i’r gweddill, ond hefyd yn creu profiad mwy diddorol a chofiadwy i’ch cynulleidfa, gan wella apêl gyffredinol yr hyn sydd gan eich busnes i’w gynnig.

Yn Creadigol Design, rydyn ni’n deall bod brand yn llawer mwy na logo neu wefan yn unig. Teimlad ydyw y mae pobl yn ei gael pan fyddan nhw’n rhyngweithio â’ch busnes, a dyna pam rydyn ni’n ymfalchïo mewn cadw symud ar flaen ein proses ddylunio, ac yn rhan graidd o’n strategaeth.

Cysylltwch â’n tîm cyfeillgar i weld sut y gallwn fynd â’ch brand i’r lefel nesaf.

4. Llai o sensitifrwydd i bris

Mantais wych arall o adeiladu hunaniaeth brand gref yw ei bod yn rhoi’r gallu i chi godi prisiau heb boeni y bydd cwsmeriaid yn mynd i rywle arall.

Mae’r term ‘sensitifrwydd i bris’ yn cyfeirio at faint y mae cost eich cynnyrch yn pwyso ar barodrwydd eich marchnad darged i’w brynu. Yn syml, po leiaf y mae pris yn pwyso ar eu penderfyniad, gorau oll. Mae’n golygu bod cwsmeriaid yn hoffi eich brand ddigon i roi llai o bwys ar y pris.

Mae cwsmeriaid sy’n llai sensitif i bris yn fwyaf tebygol o fod wedi’u bodloni gan gynnyrch a brynon nhw gan frand, mae ganddyn nhw gysylltiad emosiynol cadarnhaol â’r brand, neu gallan nhw uniaethu â gwerthoedd ac ethos y brand, e.e. cynaliadwyedd.

5. Mae’n rhoi sylfaen dda i farchnata llwyddiannus

Yn olaf ond nid lleiaf, mae hunaniaeth brand gref yn sylfaen gadarn i farchnata llwyddiannus. Mae hyn oherwydd bod hunaniaeth brand gyson a diffiniedig yn gwneud y brand yn hawdd ei adnabod, sy’n hanfodol i strategaethau marchnata, gan fod defnyddwyr yn fwy tebygol o ymgysylltu â brand y gallan nhw ei adnabod yn hawdd, a’i gofio.

Yn ogystal, mae brandiau â hunaniaethau cryf mewn sefyllfa llawer gwell i’w gwahaniaethu eu hunain yn dda yn y farchnad. Mae marchnata llwyddiannus yn golygu arddangos yr hyn sy’n gwneud y brand yn unigryw ac yn ddeniadol, ac mae hunaniaeth gref yn rhoi sylfaen i wahaniaethu effeithiol.

A dyna ni! Gobeithio bod yr erthygl hon wedi helpu eich dealltwriaeth o beth yw hunaniaeth brand a pham mae mor bwysig yn y farchnad heddiw. Am fwy o newyddion ac awgrymiadau, edrychwch ar ein dyddiadur brandio a dylunio.

Creadigol Design ydyn ni: stiwdio ddylunio gwasanaeth llawn, ddwyieithog yn y DU, wedi’i chreu i drawsnewid eich brand a’ch helpu i sefyll allan mewn marchnad orlawn.

O strategaeth brand a dylunio hunaniaeth i UX/UI a datblygu gwe, mae ein tîm o ddylunwyr, strategwyr a datblygwyr dwyieithog yn angerddol am ddarparu atebion dylunio o’r radd flaenaf sydd wedi’u teilwra i’ch anghenion unigryw.

Cysylltwch â’n harbenigwyr heddiw i weld sut y gallwn helpu eich busnes.

Ysgrifennwyd gan Kate ar gyfer Creadigol Design.

Cysylltu â ni

Oes gennych chi frand sydd angen symud?