31 January 2024
Sut i ddewis yr asiantaeth frandio a dylunio gywir

Mae dewis asiantaeth frandio i weithio gyda hi’n benderfyniad mawr, ac mae nifer o bethau y dylech eu hystyried wrth ddewis yr un iawn i’ch busnes, fel eu portffolio, tystebau, ac a yw eu harbenigedd yn cyd-fynd â’ch nodau brandio.
Buddsoddiad yw brandio. Mae’n gofyn am arian, amser ac wrth gwrs rywfaint o risg. Ond mae’n un o’r buddsoddiadau callaf y gallwch eu gwneud i’ch busnes. Dyna pam mae gwybod sut i ddewis yr asiantaeth frandio a dylunio gywir mor bwysig.
Does dim byd mwy rhwystredig na mynd drwy’r broses ailfrandio drylwyr dim ond i orfod ei gwneud eto oherwydd i chi gyflogi’r asiantaeth anghywir. Dyna pam rydyn ni wedi crynhoi 5 o’r camau pwysicaf i’w cymryd wrth chwilio am eich asiantaeth frandio nesaf, er mwyn sicrhau eich bod yn osgoi’r sefyllfa honno.
Dyma 5 cam i’ch helpu i ddewis yr asiantaeth frandio gywir i’ch busnes:
- Egluro eich nodau a’ch amcanion
- Gwneud eich ymchwil
- Edrych ar eu portffolio o waith blaenorol
- Sicrhau bod ganddyn nhw brofiad a’r arbenigedd cywir
- Peidio â bod ofn gofyn cwestiynau
1. Egluro eich nodau a’ch amcanion
Yn gyntaf oll, cyn i chi ddechrau chwilio am yr asiantaeth frandio a dylunio berffaith, rhaid i chi osod eich nodau ac egluro eich amcanion.
Penderfynwch beth rydych am ei gyflawni wrth gyflogi asiantaeth frandio. Gallai hynny fod yn hunaniaeth brand wedi’i hadnewyddu, mwy o ymwybyddiaeth brand, gwell ymgysylltiad cwsmeriaid, neu ddenu cynulleidfa gwbl newydd.
Yn ystod y dadansoddiad cychwynnol hwn o’ch nodau, mae hefyd yn werth nodi unrhyw broblemau neu heriau sy’n dod i’r meddwl yn eich ymdrechion brandio a dylunio presennol. A oes gennych ddelweddau sydd wedi dyddio, negeseuon anghyson, neu ddiffyg undod ar draws gwahanol sianeli? Eglurwch yr heriau hyn yn glir i ddarpar asiantaethau a gwelwch pa mor dda y gallan nhw eu deall a mynd i’r afael â nhw.
2. Gwneud eich ymchwil
Unwaith y byddwch wedi gosod amcanion clir, treuliwch amser yn ymchwilio a dod o hyd i ystod o asiantaethau gwahanol sy’n arbenigo mewn gwasanaethau brandio a dylunio graffig. Gallwch ddechrau eich chwilio drwy edrych ar-lein, a gofyn i ffrindiau, teulu neu gydweithwyr am argymhellion.
Peidiwch â bod ofn cael dyfynbrisiau gan sawl asiantaeth frandio wahanol os oes rhaid. Dyma eich cyfle i weld beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig a sut mae’r prisiau’n cymharu.
Mae’n syniad da gofyn am ymgynghoriad gyda phob asiantaeth er mwyn deall yn well beth maen nhw’n ei gynnig a chael teimlad go iawn o bwy fyddwch chi’n gweithio gyda nhw. Sicrhewch eu bod i gyd yn cynnig yr un gwasanaethau brandio, a gofynnwch beth sy’n dod gyda phob opsiwn rhag ofn bod gwahaniaethau rhwng asiantaethau nad ydyn nhw’n amlwg ar eu gwefan neu yn yr ohebiaeth gychwynnol. Er enghraifft, gallai rhai asiantaethau gynnig diwygiadau diderfyn tra gallai eraill godi tâl ychwanegol.
Cysylltwch ag aelod cyfeillgar o’r tîm am ymgynghoriad ar sut y gallwn eich helpu i gyflawni eich nodau.
3. Edrych ar eu tystebau a’u gwaith blaenorol
Wrth fuddsoddi eich arian mewn unrhyw beth, boed yn asiantaeth farchnata, model ffôn newydd, neu rywbeth mor fach â chrys-t, mae bob amser yn syniad da edrych ar adolygiadau a thystebau gan gleientiaid neu gwsmeriaid blaenorol sydd wedi defnyddio’r cynnyrch neu’r gwasanaeth.
Mae hyn oherwydd bod tystebau’n gweithredu fel adolygiadau ac yn rhoi cipolwg ar brofiadau go iawn cleientiaid blaenorol, a bydd clywed am brofiadau eraill sydd wedi gweithio gyda’r asiantaeth frandio a dylunio yn rhoi dealltwriaeth fwy tryloyw i chi o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl, a pha mor ddibynadwy ydyn nhw.
Yn ogystal â thystebau, byddwch hefyd am edrych ar eu gwaith blaenorol a’u portffolios.
Sut i ddod o hyd i enghreifftiau o waith blaenorol
Bydd gan y rhan fwyaf o asiantaethau brandio dibynadwy bortffolio neu enghreifftiau o waith y maen nhw wedi’i wneud o’r blaen. Fel arfer gallwch ddod o hyd i’r rhain ar wefan yr asiantaeth, ond weithiau efallai y bydd yn rhaid i chi ofyn amdanyn nhw.
Wrth edrych drwy eu gwaith blaenorol, rhowch sylw manwl i’r ansawdd, eu harddull arferol, ac a ydyn nhw wedi gweithio’n llwyddiannus gyda chleientiaid yn eich diwydiant chi neu â nodau tebyg.
Mae hyn yn ein harwain yn daclus at ein pwynt nesaf…
4. Sicrhau bod ganddyn nhw brofiad a’r arbenigedd cywir
Mae asiantaethau sydd â digon o brofiad a hanes profedig o lwyddiant yn llawer mwy tebygol o gynhyrchu’r gwaith o ansawdd a ddisgwylir ganddyn nhw, felly wrth benderfynu rhwng asiantaethau, ceisiwch ddarganfod ers faint y maen nhw wedi bod yn y diwydiant. Dylech hefyd ddarganfod faint o brofiad sydd ganddyn nhw o’ch diwydiant chi, neu o leiaf rai tebyg.
Rydych hefyd am weithio gydag asiantaeth sydd â’r arbenigedd cywir. Mae llu o wahanol fathau o asiantaethau marchnata, brandio a hysbysebu ar gael, pob un yn cynnig ei gwasanaethau unigryw ei hun.
Bydd rhai asiantaethau’n arbenigo mewn cynnwys cyfryngau cymdeithasol, tra bydd eraill yn canolbwyntio ar hysbysebu teledu neu ddatblygu gwe. Drwy ddod o hyd i asiantaeth sydd ag arbenigedd yn y meysydd penodol y mae eich busnes am ganolbwyntio arnyn nhw, rydych yn gwybod y byddan nhw’n gallu cyflawni’r canlyniadau rydych eu hangen ac yn eu disgwyl.
Y dewis gorau yw dod o hyd i asiantaeth ddylunio gwasanaeth llawn, fel Creadigol Design, sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau i’ch helpu i gyflawni eich nodau.
O strategaeth brand a dylunio hunaniaeth i UX/UI a datblygu gwe, mae ein tîm o ddylunwyr, strategwyr a datblygwyr dwyieithog yn angerddol am ddarparu atebion dylunio o’r radd flaenaf sydd wedi’u teilwra i anghenion ein cleientiaid. Cysylltwch â ni i weld sut y gallwn helpu!
5. Peidio â bod ofn gofyn cwestiynau
Yn olaf ond yn sicr nid lleiaf, peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau! Dyma eich cyfle i ddarganfod popeth rydych am ei wybod ac angen ei wybod am asiantaeth cyn ei chyflogi.
Ceisiwch gael syniad o beth arall y gallai asiantaeth ei wneud i chi y tu hwnt i greu logo neu ddylunio gwefan yn unig; y dyddiau hyn, mae llawer o bosibiliadau.
Cwestiynau i’w gofyn wrth gyflogi asiantaeth frandio
I sicrhau eich bod yn cyflogi asiantaeth frandio sy’n addas i’ch amcanion ac anghenion eich busnes, rhaid i chi ofyn y cwestiynau cywir. Er enghraifft:
- Pa ddiwydiannau ydych chi wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol?
- Ga i weld rhai enghreifftiau o waith blaenorol?
- Beth yw profiad ac arbenigedd eich tîm?
- Beth yw eich strwythur prisio?
- Beth sydd wedi’i gynnwys yn eich gwasanaethau?
Gobeithio bod yr erthygl hon yn helpu wrth ddewis yr asiantaeth frandio a dylunio gywir ar gyfer eich prosiect nesaf. Yn y pen draw, dilynwch eich greddf a phwy sy’n teimlo’n iawn. Dewiswch yr asiantaeth y credwch fod ganddi nid yn unig y sgiliau a’r arbenigedd i gyflawni canlyniadau o safon, ond hefyd un sy’n rhannu eich gweledigaeth ac yn deall eich nodau unigryw.
Am fwy o newyddion ac awgrymiadau, edrychwch ar ein dyddiadur brandio a dylunio.
Creadigol Design ydyn ni: stiwdio ddylunio gwasanaeth llawn, ddwyieithog yn y DU, wedi’i chreu i drawsnewid eich brand a’ch helpu i sefyll allan mewn marchnad orlawn. Cysylltwch â’n harbenigwyr heddiw i weld sut y gallwn helpu eich busnes.
Ysgrifennwyd gan Kate ar gyfer Creadigol Design.